Fy ngwlad:
Picture of the Eisteddfod Sign

Arddangos Prifysgol Bangor yn y Brifwyl

Dydd Sadwrn 02.08

Mae Caffi Babis yn sesiwn rydym yn eu cynnig i rieni newydd a’u babis. Mae’r sesiwn yn fwyaf addas i blant hyd at 24 mis oed, ond yn amlwg, mae croeso i blant hŷn ymuno gyda chi hefyd.

Mae Caffi Babis yn sesiwn rydym yn eu cynnig i rieni newydd a’u babis. Mae’r sesiwn yn fwyaf addas i blant hyd at 24 mis oed, ond yn amlwg, mae croeso i blant hŷn ymuno gyda chi hefyd.

Dydd Sul 03.08

Dewch i fwynhau amryw o weithgareddau i'r teulu yn cynnwys; dyfalwch pa benglog, lliwio i blant, sesiwn gwneud bathodynnau a chyfle i blant wisgo 'gŵn a chap' Prifysgol Bangor.

Profwch eich ymennydd, twyllwch eich llygaid, a mesurwch eich amser ymateb gyda’n gweithgareddau gwyddonol!

Dydd Llun 04.08

Lansio baner arddangosfa cofleidio Cymraeg, sy'n arddangos bioamrywiaeth a thirweddau unigryw Ynys Môn.

Dewch draw i ddathlu cyhoeddi cyfrol o eiddo Prifysgol Bangor a gyd-olygwyd gan Dr Gareth Evans-Jones (Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd) a Dr Elis Dafydd (Cymraeg). Bydd golygyddion y gyfrol yn sgwrsio ag amryw o’r cyfranwyr, a bydd cyfle i brynu copi o’r gyfrol! O ddiflastod swyddi cyfieithu mewn cynghorau sir, cyfieithu Saunders Lewis i'r iaith Bwyleg, athroniaeth iaith a diwinyddiaeth Morgan Llwyd heddiw a sci-fi yn y Gymraeg, mi fydd hon yn sesiwn llawn trafodaeth a meddwl!

Dr Gareth Evans-Jones yn holi Dr Elis Dafydd a Dr Rebecca Thomas am y nofel gampws Gymraeg.

Dydd Mawrth 05.08

Mae ffilmiau Marvel yn eithriadol boblogaidd a gellir eu hystyried fel chwedlau moesol y byd modern, oherwydd y gwrthdaro rhwng y da a’r drwg sydd yn y ffilmiau. Yn y sgwrs hon, bydd Dr Gareth Evans-Jones (Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru) yn archwilio’r ffilmiau fel chwedlau moesol gan ystyried egwyddorion moesol drwy gymeriadau fel Deadpool a’u perthnasedd i drafodaethau diwylliannol ac athronyddol ein byd ni heddiw. 

Cadeirir gan Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor Y Brifysgol. ymunwch a ni am drafodaeth fywiog ynghylch sut i greu meddygon o Gymru, i Gymru gyda Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar ran Ysgol Feddygol Gogledd Cymru - Dr Nia Jones, Yr Athro Angharad Davies , myfyrwyr presennol a meddyg teulu lleol. 

Dydd Mercher 06.08

Dewch i weld sut mae ap ARFer yn newid arferion iaith mewn gweithleoedd a sut y gall gynorthwyo staff yn eich gweithle chi i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith.

Digwyddiad Cymru / Wcráin (Bangor / Khmelnytskyi)  

Ymunwch â ni ar gyfer ein haduniad blynyddol o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor! 

Dydd Iau 07.08

Y Gymraeg a deallusrwydd artiffisial (DA) - Gyda DA yn fwyfwy amlwg yn ein bywydau, sut allwn ni sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei hanwybyddu ac yn rhan greiddiol o unrhyw ddatblygiad


Ymunwch â ni i glywed am un o brosiectau ymchwil cyfredol LPIP Cymru Wledig, sy'n archwilio swyddogaeth a gwerth treftadaeth ddiwylliannol mewn cymunedau gwledig. Bydd y sesiwn hon yn gyfle i ddysgu, rhannu profiadau, a thrafod sut mae diwylliant lleol yn siapio’n bywydau bob dydd.

Dydd Gwener 08.08

Sgwrs gan Dr Mari Wiliam, Hanes, a Dr Rhian Hodges, Cymdeithaseg, am y  daith i sefydlu ysgolion Cymraeg yn y gogledd-ddwyrain, gyda chyfle i'r gynulleidfa rannu straeon a phrofiadau o fod yn ddisgyblion ac yn athrawon yn rhai o'r ysgolion hyn o'r 1940au hyd heddiw.

Dewch i fwynhau perfformiad gydag Alis Glyn a'i band ar ein stondin pnawn dydd Gwener.

Dydd Sadwrn 09.08

Morgan Jones sy'n holi Lili Mai Jones a Beth Jones - dwy fyfyrwraig o Brifysgol Bangor sy'n gwneud eu marc ym myd y bêl.

Cyfle i drafod addysg Gymraeg, dwyieithrwydd ac amlieithrwydd. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau, a sgwrsio gydag arbenigwyr dwyieithrwydd o Brifysgol Bangor. Tra byddwch yn siarad â ni, gall y plant fwynhau amser stori!